UWCH GYNORTHWAY-YDD CLERCAIDD

Cardiff Council
Full Time £22,737 - £23,893 Per year Wales County Hall, Cardiff CF10 4UW, United Kingdom Apply before 2024-11-15
Advertisement

Overview

Am Y Gwasanaeth

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am Gynorthwyydd Clerigol Uwch llawn amser i gefnogi’r tîm Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn, sef gwasanaeth amlddisgyblaethol sy'n cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth dros 64 oed sy'n dioddef cyflyrau iechyd meddwl.

Am Y Swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n annibynnol yn ateb galwadau ffôn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau teulu, darparwyr gofal ac asiantaethau eraill. Byddwch chi’n rhoi cymorth gweinyddol i’r tîm, sy’n cwmpasu ystod eang o ddyletswyddau i’r tîm, gan gynnwys:

  • Cadw golwg ar flwch post y tîm
  • Cynnal e-ffeiliau
  • Archebion SAP a thalu anfonebau
  • Cymryd cofnodion
  • Rheoli cronfeydd data
  • Diweddaru a chynnal cofrestrau
  • Gweithredu cymorth gweinyddol cyffredinol i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, yn gallu gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun ac yn gallu defnyddio cyfrifiaduron, gyda phrofiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office. Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn amgylchedd sy'n newid yn gyson, felly mae'r gallu i ddysgu ac i addasu'n gyflym yn hanfodol. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi gynorthwyo timau gwaith cymdeithasol eraill yng Nghaerdydd, felly rhaid i chi fod yn agored i gyfleoedd newydd a meddu ar agwedd gadarnhaol. Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

  • sy’n 25 oed ac iau;
  • nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
  • o’n cymunedau lleol gan gynnwys unigolion anabl, gofalwyr a’r rheini o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd yn arbennig;

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

  • Canllawiau Gwneud Cais
  • Gwneud cais am swydd â ni
  • Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

  • Siarter y Gweithwyr
  • Recriwtio Cyn-droseddwyr
  • Nodyn Preifatrwydd
Advertisement
Recently added jobs