Gweithiwr Cymdeithasol Ardal

Cardiff Council
Full Time £38,223 - £42,403 Per year Wales County Hall, Cardiff CF10 4UW, United Kingdom Apply before 2024-11-15
Advertisement

Overview

Am Y Gwasanaeth

Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro, gan roi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac arwain ymarfer yng Nghymru.

Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddilyn datblygiad gyrfaol, er enghraifft eleni mae 10 gweithiwr mewnol wedi cynyddu i swyddi uwch o fewn ein timau Gwaith Cymdeithasol.

Rydym wedi ailgynllunio ein gwasanaethau i ddilyn taith y plentyn a chreu timau ardal sy'n galluogi gweithwyr i gysylltu'n agos â chymunedau a gwasanaethau lleol. Mae diwylliant iach o ddysgu, cymorth a theulu ar draws ein timau gwaith cymdeithasol anhygoel.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae’r timau’n gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gennym amrywiaeth amrywiol o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr, ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain a hi yw’r un gyntaf yn y DU i chael ei datgan yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF. Mae hyn yn rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a’n strategaethau. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain.

Manteision a gynigir

  • Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 28 diwrnod y flwyddyn, i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd.
  • Diwylliant gweithio hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg sy'n eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
  • Gweithio hybrid – eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg, boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
  • Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg.
  • Llwyth achos cyfartalog o 20.
  • Cymhwysedd ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000, adolygir bob 12 mis.

Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol gyda phrofiad cadarn o ddiogelu ac amddiffyn plant. Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yn hanfodol, ynghyd â sgiliau asesu rhagorol a’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno.

Advertisement
Recently added jobs