Swyddog Prosiectau
Cardiff CouncilOverview
Am Y Gwasanaeth
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol.
Am Y Swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi’r rhaglen adeiladu tai ar draws ystod o safleoedd ledled Caerdydd, yn benodol ym maes llety pobl hŷn. Byddwch yn cymryd rhan ym mhob cam o’r gwaith o gyflawni prosiectau, o’r gwaith cynllunio a dylunio i roi ar waith a gwerthuso.
Mae'r holl brosiectau’n cynnwys cynnal ymchwiliadau a gwerthusiadau safleoedd, cysylltu â thenantiaid a thrigolion, a gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau ac asiantaethau allanol eraill i lunio a pharatoi manylebau cynlluniau.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Dylech feddu ar gymhwyster neu brofiad ym maes adfywio, tai neu ddisgyblaeth berthnasol, sgiliau da o ran cyfathrebu a gofal cwsmeriaid, bod yn drefnus ac yn gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun. Byddai sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i weithio gyda phartneriaid yn hanfodol i'r rôl hon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Asmut Price, 07976 003091 neu Teresa Barnes ar 07976 777274.
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
