Uwch Therapydd Galwedigaethol, Swyddog Hyfforddiant Ailalluogi
Cardiff CouncilOverview
Am Y Gwasanaeth
Mae'r tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) yn rhan o Wasanaethau Byw'n Annibynnol Cyngor Caerdydd sy'n gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i'w cefnogi i fyw'n annibynnol gartref ac i’w cadw wedi'u cysylltu â'u cymunedau.
Mae TAC yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Gyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n ceisio cefnogi oedolion, drwy therapi a/neu ofal cartref, i adfer neu gynnal eu gallu i fyw'n annibynnol gartref. Nod y gwasanaeth yw annog a chefnogi pobl i ddysgu neu ail-ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd, yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty.
Am Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA), Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) Caerdydd fel Uwch Swyddog Hyfforddi Therapydd Galwedigaethol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth mewn perthynas â systemau yn ogystal â theithiau Tŷ Smart, ailalluogi a hyfforddiant trin â llaw, canllawiau hyfforddi, ffurflenni a dogfennau manyleb a meini prawf cyfoes.
Fel rhan o'r Tîm Adnoddau Cymunedol, lle bo'n briodol, hyfforddi staff i gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
Darparu hyfforddiant i Ofalwyr mewn perthynas â darparu'r model gofal ailalluogi.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rhaid i chi fod yn unigolyn deinamig sy'n frwd dros hyrwyddo annibyniaeth.
Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio i derfynau amser tynn a bod yn hyblyg iawn. Rhaid i chi allu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych a’r gallu i ddatrys problemau a chynnig ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'n hanfodol bod gennych brofiad o weithio'n rhagweithiol gyda chleientiaid ag anableddau corfforol a/neu bobl hŷn, trwydded yrru ddilys lawn a’r defnydd o gerbyd gydag yswiriant busnes.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl.
Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs.
Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
