Gweinyddwr Cymorth a Rhianta Cynnar

Vale of Glamorgan Council
Full Time 37 £22,777 - £24,496 Per year Wales Civic Offices, Holton Rd, Barry CF63 4RU, United Kingdom Apply before 2024-11-08
Advertisement

Overview

Amdanom ni: Mae Tîm o Amgylch y Teulu, Llinell Gynghori Teuluoedd yn Gyntaf a Gwasanaeth Rhianta'r Fro yn rhan o'r model Cymorth Cynnar ym Mro Morgannwg. Maent yn cefnogi teuluoedd drwy wrando ar eu hanghenion er mwyn nodi ymyriadau a gwasanaethau perthnasol a all eu helpu i oresgyn unrhyw heriau neu rwystrau a allai fod.

Ynglŷn â'r rôl: Gradd 5 - SCP 8-12 - £22,777 – £24,496.

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener, 37 awr.

Prif Waith: Community Enterprise Centre, Y Barri.

Rheswm Dros Dro: Tan 31/3/25 yn unol â Chyllid Grant blynyddol Teuluoedd yn Gyntaf.

Disgrifiad: Darparu amrywiaeth o gymorth gweinyddol i'r Gwasanaethau Cymorth Cynnar sy'n cynnwys Tîm o Amgylch y Teulu, Gwasanaeth Rhianta'r Fro a Llinell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf.

Amdanoch chi: Bydd angen y canlynol arnoch:

Profiad:

  • Profiad o gynnal systemau ffeilio, dogfennau a swyddogaethau gweinyddol.
  • Profiad o fonitro projectau a mentrau.
  • Profiad o ddatblygu systemau rheoli perfformiad/gwybodaeth.

Gwybodaeth:

  • Gwybodaeth am becynnau TG gan gynnwys Microsoft Outlook, Word, Excel a Publisher.
  • Gwybodaeth am swyddogaethau busnes a gweinyddol.
  • Gwybodaeth am Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau.

Sgiliau a rhinweddau:

  • Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau.
  • Llythrennedd cyfrifiadurol a'r gallu i ddefnyddio ystod eang o raglenni meddalwedd.

Cymwysterau a hyfforddiant:

  • Addysg i Lefelau A / NVQ Lefel 3 neu gyfwerth.

Agwedd a chymhelliant:

  • Gallu helpu eraill i ddatblygu a gweithredu systemau monitro a gwerthuso.
  • Gallu gweithio o fewn cyfyngiadau amser ac amserlenni adrodd.

Arall:

  • Sicrhau y cedwir at bolisïau cyfrinachedd a diogelu data.

Gwybodaeth ychwanegol: Angen Gwiriad DBS: Manwl.

Advertisement
Recently added jobs