Glanhawr - Ysgol Iolo Morgannwg, Student Role

Vale of Glamorgan Council
Part Time 12.5 £12 Per hour Wales Civic Offices, Holton Rd, Barry CF63 4RU, United Kingdom Apply before 2024-11-08
Advertisement

Overview

Amdanom ni

Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau.

Manylion am gyflog: Grade 1 £12.00

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener.

Amser tymor: 12.5 awr/wythnos (38 wythnos).

Egwyl: 6 awr/wythnos (5 wythnos).

Prif Waith: Ysgol Iolo Morgannwg, Cowbridge.

Disgrifiad:

  • Cynorthwyo i roi gwasanaeth glanhau effeithiol i gleientiaid glanhau adeiladau.
  • Cymryd lle glanhawyr eraill yn ystod cyfnodau o wyliau, salwch, diffyg staff ac absenoldebau eraill.
  • Cynorthwyo’r goruchwylydd / goruchwylydd safle yn achlysurol gyda hyfforddi staff glanhau.
  • Ymgymryd â’r holl agweddau ar dasgau glanhau fel; glanhau carpedi a glanhau stêm, glanhau yn unol â'r fanyleb safle, glanhau ar ôl gwaith adeiladu, glanhau yn ystod egwyliau a glanhau arall na nodir fel arfer yn y fanyleb safle.

Amdanoch chi:

  • Profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu mewn disgyblaeth/amgylchedd arall cysylltiedig â glanhau.
  • Dealltwriaeth sylfaenol o'r amryw dasgau glanhau y mae angen eu gwneud i ddarparu Gwasanaeth Glanhau effeithlon ac effeithiol.
  • Sgiliau llafar da a gallu trafod ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
  • Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
  • Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
  • Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
  • Parod i weithio oriau afreolaidd.
  • Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol.

Gwybodaeth ychwanegol:

Angen Gwiriad DBS: Manwl.

Advertisement
Recently added jobs