Rheolwr Cegin Dros Dro - Ysgol Iolo Morganwg
Vale of Glamorgan CouncilOverview
Amdanom ni
The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier Penarth, priodasau, a chwsmeriaid a chwmnïau allanol.
Ynglŷn â'r rôl
Graddfa 5, Pwynt 8-12 Pro Rata.
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 5 niwrnod – 25 o oriau’r wythnos – yn ystod y tymor yn unig.
Manylion: The Big Fresh Catering Company chwilio am Rheolwr Cegin brwdfrydig a phrofiadol. Nifer y prydau a weinir ar y safle: tua 150-160 y dydd. Bydd ymgeiswyr yn gyfrifol am waith pob dydd rhedeg y gegin, ac yn ddelfrydol, bydd ganddynt brofiad o arlwyo ar raddfa eang.
Gofynion
- Y gallu i oruchwylio staff i gyflawni amcanion y gwasanaeth.
- Y gallu i gynllunio a threfnu’r gegin i’w llawn botensial.
- Medru gweithredu ar ei liwt ei hun o fewn gwaith bob dydd rhedeg y gegin.
- Leiaf 2 flynedd o brofiad coginio ymarferol mewn lleoliad arlwyo prysur o fewn y 3 blynedd diwethaf.
- Ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth arlwyo o safon.
Gwybodaeth ychwanegol
Angen Gwiriad DBS: OES ARCHWILIAD MANWL. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: DAWN PREEN 07702 688826.
