Swyddog Cymorth Teulu a Rhianta
Vale of Glamorgan CouncilOverview
Amdanom ni
Ydych chi’n barod i ddarparu gwasanaethau rhagorol i blant a theuluoedd? Ydych chi eisiau swydd lle gallwch chi gael effaith uniongyrchol yn y gymuned? Ydych chi'n greadigol ac yn chwilio am rôl lle gallwch ddatblygu gwasanaethau?
Mae cyfle wedi codi fel Swyddog Cymorth i Deuluoedd a Rhianta. Rydym yn chwilio am gyfathrebwr hyderus a galluog i weithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd i wella canlyniadau.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Graddfa 7: PCG Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos. Patrwm Gweithio: Gweithio'n hyblyg, gan gynnwys nosweithiau ac ar y penwythnos.
Gweithio gyda staff, gwirfoddolwyr ac asiantaethau eraill i ddarparu ystod o raglenni a chymorth rhianta.
Amdanoch chi
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ymddygiad heriol
- Gweithio gyda rhieni a theuluoedd gyda chymorth grŵp strwythuredig
- Darparu cymorth i rieni drwy raglenni a/neu gymorth un i un
- Cynllunio a chynnal hyfforddiant
- Dylanwadu/rhwydweithio amlasiantaethol
- Gwybodaeth am ddatblygiad plentyn a sgiliau rhianta
- Dealltwriaeth o effaith trawma ar blant a’u teuluoedd
Gwybodaeth ychwanegol
Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Manwl. Os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â Carys Davies, Rheolwr Ymarferwyr – Atal ac Adnoddau, 01446 745820.
