Swyddog Datblygu Gweithlu - Arweinydd PBS
Cardiff CouncilOverview
Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Mae'r Gwasanaeth Tai Arbenigol yn wynebu heriau heb eu hail ac mae ganddo weithlu mawr iawn. Felly, rydym yn recriwtio ar gyfer Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol i chwarae rhan ganolog mewn hyfforddiant a datblygu'r gweithlu ar gyfer y gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu llety, cyngor a chymorth i grwpiau agored i niwed fel teuluoedd, pobl ifanc, pobl hŷn, oedolion ag anableddau dysgu a phobl sengl ag anghenion cymhleth.
Mae'r gwasanaeth yn sylweddol ac mae ganddo amrywiaeth eang o adeiladau preswyl ar draws ei bortffolio eang. Mae'r gwasanaethau yn yr adran yn cael eu darparu ddydd a nos ar bob diwrnod o’r flwyddyn.
Ynglŷn â’r swydd
Mae'r rôl yn cynnwys rhoi cymorth i'r rheolwyr ac aelodau'r tîm mewn cymorth ymddygiadol cadarnhaol a hyfforddiant arbenigol a nodwyd gan wasanaeth.
Bydd y rôl hon yn cynnwys y canlynol:
- Ymgymryd â rôl arbenigwr a chynghori a chefnogi'r gwasanaethau wrth gyflawni'r model cymorth integredig sy’n seiliedig ar yr unigolyn.
- Bod yn gyfrifol am asesu anghenion hyfforddi a datblygu cyflogeion Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol Tai Arbenigol, gweithredu strategaethau hyfforddi, ac olrhain cynnydd ac effaith hyfforddiant.
- Dylunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant wedi’u teilwra sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau Tai Arbenigol.
- Darparu cymorth parhaus i wasanaethau o ran arferion lleihau ataliadau a'r arferion lleiaf cyfyngol.
Rôl newydd yw hon a fydd yn datblygu dros amser ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar gyfer y gwasanaeth.
Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi
- Rydym yn chwilio am unigolion deinamig a chreadigol sy’n gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
- Pobl sydd â meddwl unigol ac sy'n gallu dangos pwysigrwydd uniondeb.
- Dealltwriaeth dda o ddulliau therapiwtig.
- Profiad o roi hyfforddiant. Bod yn gymwys mewn Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol.
- Mae angen profiad â thystiolaeth o weithio gydag unigolion ag ymddygiadau cymhleth.
- Bydd dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu unigolion digartref yn fantais.
Gall yr amgylchedd gwaith fod yn heriol, felly bydd y gallu i fod yn bwyllog dan bwysau o fantais. Bydd y rôl yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cymorth i’r tîm rheoli gyda phob agwedd ar y gwasanaeth ddydd a nos ar bob diwrnod o’r flwyddyn.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae un swydd barhaol ar gael.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae hon yn swydd o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am – 4.30pm gyda rhywfaint o hyblygrwydd wrth gytuno â’r rheolwr llinell. Efallai y bydd angen gweithio y tu allan i'r oriau craidd os oes angen.
