UWCH THERAPYDD GALWEDIGAETHOL, SWYDDOG HYFFORDDIANT AILALLUOGI
Cardiff CouncilOverview
Am Y Gwasanaeth
Mae'r tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) yn rhan o Wasanaethau Byw'n Annibynnol Cyngor Caerdydd sy'n gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i'w cefnogi i fyw'n annibynnol gartref ac i’w cadw wedi'u cysylltu â'u cymunedau.
Mae TAC yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Gyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n ceisio cefnogi oedolion, drwy therapi a/neu ofal cartref, i adfer neu gynnal eu gallu i fyw'n annibynnol gartref.
Am Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) fel Uwch Swyddog Hyfforddi Therapydd Galwedigaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth mewn perthynas â systemau yn ogystal â theithiau Tŷ Smart.
Rhaid i chi fod yn unigolyn deinamig sy'n frwd dros hyrwyddo annibyniaeth, gyda sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych, a'r gallu i ddatrys problemau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'n hanfodol bod gennych brofiad o weithio'n rhagweithiol gyda chleientiaid ag anableddau corfforol a/neu bobl hŷn.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor.
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
